Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                    Nodir y pwynt hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn meddwl bod angen gwneud unrhyw ddiwygiad oherwydd nid yw cynnwys y diffiniad o “grŵp o gwmnïau” yn rheoliad 2(1) o’r prif Reoliadau yn effeithio ar eglurder na diben y prif Reoliadau.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                    Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                    Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                    Nodir y pwynt hwn. Fodd bynnag, ystyriwn fod y ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd yn ddigon clir ac nid ydym yn credu bod angen cyfeirio at y rhestr hon yn rheoliad 7A i roi sicrwydd i’r darllenydd.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                    Mae’r defnydd o “sefydliad addysgol arall” yn gyson ag Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, sy’n amlinellu a yw rhai mathau o fangreoedd yng Nghymru a Lloegr yn ddarostyngedig i ffioedd casglu a gwaredu ar gyfer casglu gwastraff cartrefi ac mae’n cynnwys “schools, universities, and other educational establishments”. Gallai’r enghreifftiau o “sefydliad addysgol arall” gynnwys colegau galwedigaethol. Ystyriwn y bydd cadw’r disgrifiad hwn yn sicrhau eglurder i gynhyrchwyr ac ystyriwn ei fod yn ddigon clir i’r sefydliadau posibl hynny. Nid ystyriwn fod angen egluro “sefydliad addysgol arall” ymhellach.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                    Nodir y pwynt hwn. Fodd bynnag, ystyriwn fod y ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd yn ddigon clir ac nid ydym yn credu bod angen gwneud unrhyw ddiwygiad i roi sicrwydd i’r darllenydd.    

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                    Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

Pwynt Craffu Technegol 8:                    Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i’r afael â hyn fel y’i nodir yn y tabl isod.

Pwynt Craffu Technegol 9:                    Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i’r afael â hyn fel y’i nodir yn y tabl isod.

Pwynt Craffu Technegol 10:                  (i) Nodir y pwynt hwn. Ystyriwn ei bod yn glir i’r darllenydd mai dim ond at gynhyrchydd mawr y gall y rhwymedigaeth yn rheoliad newydd 17A o’r prif Reoliadau gyfeirio am mai dim ond cynhyrchwyr mawr sy’n ddarostyngedig i’r rhwymedigaeth yn rheoliad 17 o’r prif Reoliadau. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

(ii) Nodir y pwynt hwn. Ystyriwn ei bod yn glir mai dim ond at gynhyrchydd mawr y gall y rhwymedigaeth yn rheoliad newydd 17A o’r prif Reoliadau gyfeirio am mai dim ond cynhyrchwyr mawr sy’n ddarostyngedig i’r rhwymedigaeth yn rheoliad 17 o’r prif Reoliadau. Yn ogystal, mae’r cyfeiriad yn rheoliad newydd 22A(2) yn glir ei fod yn cyfeirio at gynhyrchwyr mawr oherwydd dim ond cynhyrchwyr mawr sydd wedi eu cynnwys yn “y rhestr” y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

Pwynt Craffu Technegol 11:                  Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i’r afael â hyn fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

Pwynt Craffu Technegol 12:                   Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i’r afael â hyn fel y’i nodir yn y tabl isod.             

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:                          Ystyriwn fod adran 2(9)(d) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 yn berthnasol. Ystyriwn y gall rhai o’r diwygiadau yn y Rheoliadau newid y pwynt rhwymedigaeth o dan y prif Reoliadau o un math o gynhyrchydd i un arall (megis diwygiadau i’r diffiniad o “pecynwaith cartref”) ac felly naill ai cynyddu rhwymedigaethau cynhyrchwyr unigol presennol neu roi rhwymedigaethau newydd ar gynhyrchwyr na fyddent wedi bod ganddynt o dan y prif Reoliadau (megis y diwygiadau i’r diffiniad o “gwerthwr”), pan fyddai’r methiant i gasglu/adrodd ar ddata yn drosedd.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:                          Drwy fforymau rhanddeiliaid a gweithgorau’r pedair gwlad, gwnaethom fynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol mewn ffordd wedi ei thargedu er mwyn llywio’r diwygiadau i’r prif Reoliadau yn y Rheoliadau hyn. Ymhlith y rhanddeiliaid hyn roedd CNC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal ag aelodau allweddol o’r diwydiant pecynwaith, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999.

 

 

 

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

 

The Packaging Waste (Data Reporting and Collection) (Wales) (Amendment) Regulations 2024

Yn rheoliad 5, yn is-baragraffau (c)(i) ac (c)(ii), yn lle “yn is-baragraff” rhodder “ym mharagraff”.

Yn rheoliad 5, yn is-baragraffau (c)(i) ac (c)(ii), yn lle “sub-paragraph” rhodder “paragraph”.

 

Yn rheoliad 8, yn y rheoliad 7 a amnewidir o’r prif Reoliadau, ym mharagraffau (3)(b)(i) a (3)(b)(ii), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”.

Yn rheoliad 8, yn y rheoliad 7 a amnewidir o’r prif Reoliadau, ym mharagraffau (3)(b)(i) a (3)(b)(ii), yn lle “paragraph” rhodder “sub-paragraph”.

Yn y testun Saesneg, yn rheoliad 8, yn y rheoliad 7 a amnewidir o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (8)(b)(ii), o flaen “collect” mewnosoder y testun “designed to”.

Yn y testun Cymraeg, yn rheoliad 9, yn y rheoliad newydd 7A o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (2)(d), yn lle “ddefnyddiwr” rhodder “dreuliwr”.

 

Yn rheoliad 10, amnewidir is-baragraff (b) fel y’i nodir isod.

 

Yn lle is-baragraff (b) fel y mae ar hyn o bryd

“(b) ym mharagraff (2), yn lle “paragraff (6)”, rhodder “paragraff (5)(b)(iii), (6) neu (7)”;”

 

 

Rhodder:

“(b) ym mharagraff (2)—

      (i) yn lle “paragraff (6)”, rhodder “paragraff (5)(b)(iii), (6) neu (7);

      (ii) yn lle “paragraff (4)”, rhodder “paragraffau (3) a (12A)”;”

 

Yn rheoliad 10, amnewidir is-baragraff (b) fel y’i nodir isod.

 

Yn lle is-baragraff (b) fel y mae ar hyn o bryd

“(b) in paragraph (2), for “paragraph (6)”, substitute “paragraph (5)(b)(iii), (6) or (7)”;”

 

 

Rhodder:

“(b) in paragraph (2)—

      (i) for “paragraph (6)”, substitute “paragraph (5)(b)(iii), (6) or (7);

      (ii) for “paragraph (4)”, substitute “paragraphs (3) and (12A)”;”

 

Yn rheoliad 17, yn y rheoliad newydd 17A o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (1), ar ôl “gynhyrchydd” mewnosoder y gair “mawr”.

Yn rheoliad 17, yn y rheoliad newydd 17A o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (1), o flaen “producer (“LP”)” mewnosoder y gair “large”.

Yn rheoliad 19, yn y rheoliad newydd 22A o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (2) ac is-baragraffau (a), (b) ac (c), ar ôl “cynhyrchydd” mewnosoder y gair “mawr”.

Yn rheoliad 19, yn y rheoliad newydd 22A o’r prif Reoliadau, ym mharagraff (2) ac is-baragraffau (a), (b), ac (c), o flaen “producer” mewnosoder y gair “large”.

Yn rheoliad 20(e), yn lle “ym mharagraffau (a) a (b)” rhodder “yn is-baragraffau (a) a (b)”.

Yn rheoliad 20(e), yn lle “paragraphs (a) and (b)” rhodder “sub-paragraphs (a) and (b)”.

Yn rheoliad 20(g), bydd y testun “, is-baragraff (a)” yn cael ei ddileu.

Yn rheoliad 20(g), bydd y testun “, sub-paragraph (a)” yn cael ei ddileu.

Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud y Rheoliadau.